Research Co-ordinator

Research Co-ordinator

Part-time, 14.8 hours

Permanent

Salary: Grade B: £11,560 - £12,928

(£28,902 - £32,322 per annum – full time equivalent)

Location: This role can be based at any one of the Arts Council of Wales offices in Cardiff, Colwyn Bay or Carmarthen. We are currently working in a hybrid way.

Our benefits include 30 days annual leave, 2.5 privilege days, flexible working hours/pattern, cycle to work scheme and a final salary pension (6%).

About this Role

We are looking for a Research Co-ordinator to assist with the collection, compilation, analysis and presentation of data. The Research Co-ordinator will be able to aid in the provision of information and data that helps us to assess how effective we are being in meeting our objectives. This information can also be used to provide a wider understanding of the impact of the Arts Council’s funding, and of the activities that it supports.

As a public body, the Arts Council strives to manage its affairs to the highest standards of effectiveness and accountability. The Research Co-ordinator contributes to the Research & Evaluation team in achieving that goal.

About You

The successful candidate will hold a qualification in a relevant discipline containing formal training in statistical theory and research methods, and/or have significant experience with demonstrable ability in a statistics related field.

The ability to work on your own initiative, prioritise, and work effectively under pressure is essential, along with good communication skills and a commitment to high standards of customer care.

Welsh Language

We work in both English and Welsh. Fluency in Welsh (both written and spoken) is desirable but not essential for this post. Upon appointment, we can support you to learn, develop and improve your language skills and to increase your confidence in speaking and writing in Welsh.

Diversity and Inclusion

The Arts Council of Wales is an inclusive employer, and we wish to reflect the diverse communities we serve.

Disability Confident Scheme

The Arts Council of Wales is a Disability Confident employer, committed to interviewing all disabled applicants who meet all the essential criteria set out in the person specification.

How to Apply

Please submit the Application Form in Word format. Please complete the Equality, Diversity and Inclusion Monitoring Form via the Microsoft Forms link that can be found in the application form.

If you would like to submit your application in an alternative format, such as a voice note, video or British Sign Language video, please contact us first.

Flexible Working

In supporting our employees to achieve a balance between their work and their personal lives, we will also consider proposals for flexible working or job share arrangements.

Closing Date: 5pm, Wednesday 07 January 2026

Interview Date: Thursday 22nd January 2026 (online)

Cydlynydd Ymchwil

Rhan Amser, 14.8 awr yr wythnos

Parhaol

Cyflog: Gradd B: £11,560 - £12,928

(£28,902 - £32,322 y flwyddyn – cyfwerth ag llawn amser).

Lleoliad: Gellir lleoli’r rôl hon yn unrhyw un o swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru (Bae Caerdydd, Caerfyrddin, Bae Colwyn). Ar hyn o bryd rydym yn gweithio mewn ffordd hybrid.

Mae ein buddion yn cynnwys 30 diwrnod o wyliau blynyddol, 2.5 diwrnod braint, oriau/patrwm gweithio hyblyg, cynllun beicio i'r gwaith a phensiwn cyflog terfynol (6%).

Am y rôl

Rydym yn chwilio am Gydlynydd Ymchwil i gynorthwyo gyda chasglu, crynhoi, dadansoddi a chyflwyno data. Bydd y Cydlynydd Ymchwil yn gallu rhoi cymorth i ddarparu gwybodaeth a data a fydd yn ein helpu i asesu pa mor effeithiol rydym o ran cyflawni ein hamcanion. Gellir defnyddio'r wybodaeth hon hefyd i ddarparu dealltwriaeth ehangach o effaith arian Cyngor y Celfyddydau a'r gweithgareddau y mae’n eu cefnogi.

Fel corff cyhoeddus, mae Cyngor y Celfyddydau yn ceisio rheoli ei faterion i'r safon uchaf o ran effeithiolrwydd ac atebolrwydd. Mae’r Cydlynydd Ymchwil yn cyfrannu at waith y tîm Ymchwilio a Gwerthuso i gyrraedd y nod hwnnw.

Amdanoch chi

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar radd mewn disgyblaeth berthnasol sy’n cynnwys hyfforddiant ffurfiol mewn damcaniaeth ystadegol a dulliau ymchwilio, a/neu brofiad sylweddol ynghyd â gallu profadwy mewn maes cysylltiedig ag ystadegau.

Bydd gennych brofiad o flaenoriaethu gwaith, gan weithio'n effeithiol dan bwysau a meddu ar sgiliau cyfathrebu da ac ymrwymiad i ddarparu gofal cwsmeriaid ardderchog.

Yr Iaith Gymraeg

Rydym yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg. Mae rhuglder yn y Gymraeg (yn ysgrifenedig ac ar lafar) yn ddymunol ond nid yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Ar ôl cael eich penodi gallwn eich cefnogi chi i ddysgu, datblygu a gwella’ch sgiliau iaith ymhellach ac i gynyddu eich hyder wrth siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg.

Amrywiaeth a chynhwysiant

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu.

Cynllun Hyderus o ran Anabledd

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd, sy'n ymroddedig i gyfweld pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r holl feini prawf hanfodol a nodir yn y fanyleb person.

Sut i ymgeisio

Cyflwynwch y Ffurflen Gais yn fformat Word. Cwblhewch y Ffurflen Monitro ar gyfer Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant drwy'r ddolen Microsoft Forms sydd i’w chael yn y ffurflen gais.

Os hoffech chi gyflwyno’ch cais mewn fformat arall, fel nodyn llais, fideo neu fideo Iaith Arwyddion Prydain, cysylltwch â ni yn gyntaf os gwelwch yn dda.

Gweithio hyblyg

Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol byddwn hefyd yn ystyried cynigion ar gyfer trefniadau gweithio hyblyg neu rannu swydd.

Dyddiad cau: 5yh Dydd Mercher 07 Ionawr 2026

Cyfweliadau: Dydd Iau 22 Ionawr 2026 (ar lein)

Job Details

Company
Arts Council of Wales
Location
Cardiff, South Glamorgan, Wales, United Kingdom
Employment Type
Part-Time
Salary
£28,902 - £32,322 per annum
Posted