DDaT (ICT) Communications Engineer / Peiriannydd Cyfathrebiadau DTD (TGCh)
Digital transformation, data and technology all play a central role in how we deliver our services from mobilising crews and accessing risk-critical information to managing resources and supporting back office functions. As we continue to modernise, digital transformation is helping us build smarter, more connected systems that enhance responsiveness, improve decision making, and strengthen community safety.
We are now seeking a motivated, experienced, and proactive individual to join our Digital Data and Technology (ICT) Department as an Engineer within our Communications Team.
This role involves supporting a resilient, secure and reliable network infrastructure that underpins critical operational and corporate services. The postholder will assist with day-to-day network support activities, help maintain network performance, and work as part of a wider team alongside internal colleagues and external suppliers to ensure services run smoothly. They will contribute to digital transformation initiatives by supporting secure connectivity, assisting with network improvements, and gaining experience with modern networking technologies to improve service delivery and user experience.
We are looking for someone with a good technical foundation and a willingness to learn, who is comfortable working within a complex DDaT environment with appropriate guidance and support. The ability to communicate clearly with technical and non-technical colleagues, follow procedures, and troubleshoot issues methodically is important. Some experience or exposure to enterprise networking and basic network security concepts would be beneficial, along with a positive attitude to developing skills and contributing to continuous improvement. Welsh language skills are desirable but not essential.
- Contract: Permanent
- Grade: 9
- Salary: £34,434 - £36,363
- Hours of Work: 37 hours per week
- Directorate: Technical Services
- Job Ref: 503264
- Location: Headquarters, Llantrisant
_____________________
Mae trawsnewid digidol, data a thechnoleg i gyd yn chwarae rhan ganolog yn y ffordd yr ydym yn darparu ein gwasanaethau gan gynnwys danfon criwiau a chyrchu gwybodaeth sy'n hanfodol i risg a rheoli adnoddau a chefnogi swyddogaethau cefn swyddfa. Wrth i ni barhau i foderneiddio, mae trawsnewid digidol yn ein helpu i adeiladu systemau mwy craff a chysylltiedig sy'n gwella ymateb cyflym, yn gwella gwneud penderfyniadau, ac yn cryfhau diogelwch cymunedol.
Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, profiadol a rhagweithiol i ymuno â'n Hadran Data a Thechnoleg Ddigidol (TGCh) fel Peiriannydd o fewn ein Tîm Cyfathrebu.
Mae'r rôl hon yn cynnwys cefnogi seilwaith rhwydwaith hydwyth, diogel a dibynadwy sy'n sail i wasanaethau gweithredol a chorfforaethol hanfodol. Bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo gyda gweithgareddau cymorth rhwydwaith o ddydd i ddydd, yn helpu i gynnal perfformiad rhwydwaith, ac yn gweithio fel rhan o dîm ehangach ochr yn ochr â chydweithwyr mewnol a chyflenwyr allanol i sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu cynal yn esmwyth. Byddant yn cyfrannu at fentrau trawsnewid digidol trwy gefnogi cysylltedd diogel, cynorthwyo gyda gwelliannau rhwydwaith, ac ennill profiad gyda thechnolegau rhwydweithio modern i wella darpariaeth gwasanaeth a phrofiad y defnyddiwr.
Rydym yn chwilio am rywun â sylfaen dechnegol dda a pharodrwydd i ddysgu, sy'n gyfforddus yn gweithio o fewn amgylchedd DDaT cymhleth gyda chanllawiau a chefnogaeth briodol. Mae'r gallu i gyfathrebu'n glir â chydweithwyr technegol a chydweithwyr nad ydynt yn arbenigo mewn technoleg, dilyn gweithdrefnau, a datrys problemau'n systematig yn bwysig. Byddai rhywfaint o brofiad o rwydweithio menter a chysyniadau diogelwch rhwydwaith sylfaenol yn fuddiol, ynghyd ag agwedd gadarnhaol at ddatblygu sgiliau a chyfrannu at welliant parhaus. Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol.
- Cytundeb: Parhaol
- Gradd: 9
- Cyflog: £34,434 - £36,363
- Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
- Cyfarwyddiaeth: Gwasanaethau Technegol
- Cyfeirnod Swydd: 503264
- Lleoliad: Pencadlys, Llantrisant
%MCEPASTEBIN%